Rhif y ddeiseb: P-05-931

Teitl y ddeiseb: Eli haul mewn ysgolion

Geiriad y ddeiseb: Mae pob plentyn mewn perygl o losg haul yn yr ysgol neu ar daith ysgol. Mae hyn yn achosi problemau iechyd tymor byr ond mae hefyd yn achosi problemau hirdymor fel canser croen. Gellid osgoi hyn yn hawdd drwy ganiatáu i ysgolion roi eli haul arnynt gyda chydsyniad eu rhieni. Mae llawer o opsiynau ar gyfer gwneud hyn heb i'r athrawon orfod cyffwrdd y plant os yw hyn yn broblem.

 


Cefndir

Mae’r mater o amddiffyn rhag yr haul mewn ysgolion, yn enwedig ar gyfer plant ifanc, yn codi'n aml yn ystod misoedd poethaf y flwyddyn. Weithiau mae’r mater yn cael sylw yn y cyfryngau, gan gynnwys sylw i’r ddeiseb benodol hon gan y BBC, Mirror a'r Metro.

Mae sawl agwedd ar y mater sy'n codi, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, iechyd a diogelwch, addysg ac amddiffyn plant. Un peth sy’n berthnasol mewn lleoliad addysg yw bod cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer pob plentyn tair i saith oed yng Nghymru yn annog dysgu drwy chwarae a mwy o bwyslais ar ddefnyddio'r amgylchedd awyr agored fel adnodd ar gyfer dysgu plant.

Canllawiau a awgrymir

Llywodraethwyr ysgol sy'n gyfrifol am benderfynu ar y polisi ar gyfer ysgolion unigol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae yna nifer o opsiynau ar gyfer canllawiau a awgrymir gan gynnwys y rhain gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerffili, a gwefan Cancer Research UK a'r canllawiau SunSmart ar gyfer ysgolion cynradd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhedeg Rhwydwaith Cymru ar gyfer Cynlluniau Ysgolion Iach. Mae'r dangosyddion ar gyfer ei Wobr Ansawdd Genedlaethol yn gwneud nifer o gyfeiriadau at ddiogelwch yr haul. Mae'n dweud y dylai polisi ysgol ddiogel gynnwys diogelwch haul ac mae’n cyfeirio at ganllawiau SunSmart Cancer UK.

Mae yna wybodaeth am hyn hefyd ar wefan Sun Safe Schools ac mae ei gynllun achredu yn awgrymu dull gweithredu.

Mae adran 25 o'r canllaw i'r gyfraith ar gyfer llywodraethwyr ysgol yn egluro cyfrifoldebau iechyd a diogelwch mewn ysgolion a materion sy'n berthnasol i iechyd disgyblion, ond nid yw'n sôn am ddiogelwch haul yn benodol.

 

Ymchwiliad yn y Pedwerydd Cynulliad

Cylch gorchwyl

Yn 2011, derbyniodd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad ddeiseb gan yr elusen ganser Tenovus yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn o dan 11 oed yng Nghymru. Cyfeiriwyd y ddeiseb hon at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i'w thrafod, a chynhaliodd y pwyllgor hwn ymchwiliad byr yn edrych ar y canlynol:

§  a yw'r polisïau a'r canllawiau amddiffyn rhag yr haul cyfredol ar gyfer ysgolion yn effeithiol wrth ddarparu amddiffyniad digonol i blant rhag yr haul, ac os na, lle mae angen gwella;

§  a oes digon o ymwybyddiaeth o'r polisïau a'r canllawiau cyfredol ar gyfer amddiffyn rhag yr haul, ac, os na, beth yw’r ffordd orau o godi ymwybyddiaeth;

§  a oes unrhyw beth yn rhwystro plant a phobl ifanc rhag defnyddio amddiffyniad rhag yr haul mewn ysgolion, gan gynnwys eli haul, dillad, hetiau neu gysgod addas, er enghraifft cost neu athrawon neu warchodwyr plant yn rhoi eli haul arnynt, ac os felly, sut y gellid mynd i'r afael â'r rhain.

Materion a godwyd yn y sesiwn dystiolaeth

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwiliad yn 2012, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

In terms of the application of sunscreen for younger children who were unable to apply their own, there could be child protection implications. However, schools and childminders are subject to strict checks and safeguards can be put in place to ensure that the risks are minimised. This should be seen in the context of the overall child protection procedures within schools.

 

Yn 2012, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru:

National guidelines recommend that schools should have a sun policy but they are not prescriptive or mandatory. Currently, the decision whether or not to deliver sun safety advice is left largely to the discretion of the individual teacher.

 

Hefyd, dywedodd:

 

There are sensitivities around whether it is appropriate for school staff to apply sun screen to children and young people and it is vital that primary schools place particular emphasis on encouraging changes in the habits of parents/carers as well as children and young people. Local authorities and school governing bodies should formulate their own policies on this.

 

Wrth sôn am sefyllfa staff ysgolion yn rhoi eli haul ar blant, soniodd Cymdeithas Genedlaethol y Penaethiaid a Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yn 2012 am blant sy’n rhy ifanc i roi eli haul ar eu hunain, a'r mater o bwy fyddai’n gwneud hyn ar eu rhan:

 

Many schools demonstrate to children how to apply sun screen. This is reasonable and sensible. Schools often help the very youngest children to apply sun screen. While this might seem entirely sensible in individual cases we, as professional associations advise against doing so, for the equally sensible reason that physical contact can be misinterpreted with catastrophic consequences for members of staff.

 

Similar concerns apply in relation to particularly vulnerable pupils where significant child protection issues are involved. Introducing a duty on schools in this regard would encounter strong resistance from members of staff who might be instructed to apply it.

 

Yn ei hymateb ysgrifenedig i'r Pwyllgor yn 2012, cyfeiriodd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru(UCAC) at nifer o ystyriaethau. Mewn perthynas á rhoi eli haul ar blant, dywedodd fod athrawon yn gynyddol yn cael eu cynghori i gyffwrdd â phlant cyn lleied â phosibl er mwyn osgoi unrhyw honiadau o gam-drin neu gyffwrdd amhriodol. Cyfeiriodd hefyd at faterion hylendid posibl pe bai athrawon yn rhoi eli haul ar lawer o blant.

Yr hyn a ddywedodd y Pwyllgor

Roedd adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd yn 2012, yn nodi y ‘mynegwyd rhywfaint o bryder ynglŷn â’r ffaith bod staff yr ysgol yn rhoi eli haul ar blant'. O ran y mater o staff ysgolion yn rhoi eli haul ar blant, mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at bryderon a godwyd yn y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar am unrhyw gynnig i’w gwneud yn orfodol i ddarparu eli haul mewn ysgolion, gan gynnwys hylendid, alergeddau posibl, goblygiadau o ran amser ac adnoddau, a materion posibl o ran amddiffyn plant. Dywed yr adroddiad:

Pe bai eli haul yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, waeth a fyddai’n cael ei ddarparu gan rieni neu ysgolion, nododd y Pwyllgor y byddai angen mwy o eglurder ar ganllawiau presennol ynglŷn ag athrawon, gwarchodwyr plant neu staff ysgolion meithrin yn dod i gysylltiad corfforol â phlant wrth roi eli haul ar eu cyrff.

 

Gwnaeth y Pwyllgor chwe argymhelliad, gan gynnwys:

 

Fel rhan o bolisïau iechyd a diogelwch ehangach, dylai ysgol gael dogfen sy’n amlinellu agwedd yr ysgol at ystod o ffactorau amgylcheddol a all effeithio ar blant yn ystod eu diwrnod yn yr ysgol, gan gynnwys gofynion cysgod ac amddiffyn rhag yr haul, a thywydd gwlyb neu oer.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion ei barn yn 2012 am yr holl argymhellion.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i'r ddeiseb hon, ar 27 Tachwedd gwnaeth y Gweinidog Addysg sawl pwynt gan gynnwys:

 

§  Nid yw iechyd a diogelwch wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ac mae'r cyfrifoldebau mewn ysgolion yn deillio o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a'r Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 cysylltiedig.

§  Corff llywodraethol yr ysgol sydd â'r cyfrifoldeb statudol am iechyd a diogelwch disgyblion, naill ai fel cyflogwr staff yr ysgol neu oherwydd ei fod yn rheoli safle’r ysgol, neu’r ddau mewn sawl achos.

§  O dan gyfraith gyffredinol esgeulustod, mae'n ofynnol i athrawon ysgolion ofalu am blant o dan 18 oed fel pe baent yn rhieni arnynt. Maent o dan rwymedigaeth i drin a gofalu am ddisgybl fel y byddai rhiant gofalus yn ei wneud.

Mae'r ymateb hefyd yn cyfeirio at ganllawiau gan Rwydwaith Cymru ar gyfer Cynlluniau Ysgolion Iach, sy'n awgrymu y dylai ysgolion wneud y canlynol:

§  Mynd ati i asesu’r risg o ddod i gysylltiad â'r haul wrth gynllunio gweithgareddau awyr agored yn ystod yr haf.

§  Ymgysylltu â rhieni i gytuno ar ddull lleol o ddarparu eli haul â Ffactor Amddiffyn rhag yr Haul (SPF) 15 o leiaf a’i roi ar blant.

§  Annog rhieni i ddarparu hetiau, sbectol haul a dillad priodol yn ystod yr haf ac yn enwedig pan fydd gweithgareddau awyr agored ar y gweill.

§  Sicrhau fod gan dir yr ysgol gysgod ar gyfer diwrnodau poeth iawn.

§  Osgoi gweithgareddau awyr agored hirfaith yn ystod rhan boethaf y dydd, h.y. 11am-3pm rhwng mis Mawrth a mis Hydref.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.